Lleoliad:
Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Chwefror 2016
Amser: 09.34 -
11.23
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Alun Davies AC Andrew RT Davies AC John Griffiths AC (Cadeirydd dros dro) Altaf Hussain AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC |
Tystion: |
Chloe Dunnett, Y Swyddfa Gartref Angela Scrutton, Y Swyddfa Gartref Joe Shapiro, Y Swyddfa Gartref Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Dr Rhian Hills, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Oherwydd bod David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Gwyn Price John Griffiths, ac fe’i etholwyd.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones, Darren Millar a Kirsty Williams. Dirprwyodd Andrew RT Davies ar ran Darren Millar.
2.1 Rhoddodd swyddogion sesiwn friffio ar y Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol a datblygiadau perthnasol yr UE i’r Aelodau.
3.1 Darparodd swyddogion sesiwn friffio ar gynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ‘Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed’ - 2016-2018 i’r Aelodau.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Weinidog, i’w gopïo i’r Comisiynydd ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn amodol ar fân newidiadau.
5.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.
5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
5.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.